Enghraifft o: | cangen o ddaearyddiaeth, pwnc gradd, cangen o fywydeg |
---|---|
Math | bywydeg, daearyddiaeth ffisegol |
Rhan o | Biogeography and phylogeography |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Astudiaeth o wasgariad bioamrywiaeth yn enwedig rhywogaethau'r Ddaear - dros gyfnod o amser - yw bioddaearyddiaeth. Mae'n ceisio dadlennu lle mae organebau yn byw ar y blaned, o ran uchter, a lleoliad daearyddol a o ran ynysu'r rhywogaeth a'i gynefin. Gellir rhannu'r maes hwn yn ddwy gangen: llysddaearyddiaeth, sef yr astudiaeth o blanhigion a sõoddaearyddiaeth sef yr astudiaeth o anifeiliaid.[1][2]
Mae'r patrymau gwasgariad yn cael ei effeithio gan ffactorau hanesyddol megis ffurfiant rhywogaethau, difodiant, drifft cyfandirol, rhewlifiad ac amrywiadau mewn lefelau'r môr, cyrsiau afonydd, rhyngipiad afon a llysdyfiant.
Roedd gwybodaeth am y gwahanol fathau o organebau, eu niferoedd a'u nodweddion yr un mor bwysig yn y gorffennol ag y mae i ni heddiw, wrth i fodau dynol addasu i hinsoddau anghydryw (heterogeneous), ond rhagweladwy i ryw raddau. Mae bioddaearyddiaeth yn faes rhyngweithredol sy'n uno sawl cysyniad o ecoleg i esblygiad, o ddaeareg i ddaearyddiaeth ffisegol.[3]