Birmingham

Birmingham
Mathmetropolis, dinas, ardal ddi-blwyf, tref goleg, city of United Kingdom Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Birmingham, Swydd Warwick
Poblogaeth1,137,100 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 7 g Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethYvonne Mosquito Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Canolbarth Lloegr
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd267.77 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr140 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawTame Valley Canal, Afon Tame, Afon Rea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.48°N 1.9025°W Edit this on Wikidata
Cod postEdit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethYvonne Mosquito Edit this on Wikidata
Map

Dinas fawr yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Birmingham.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Birmingham.

Datblygodd yn y Chwyldro Diwydiannol, ond mae ganddi gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol. Rhoddwyd statws dinesig swyddogol iddi yn 1889. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Birmingham boblogaeth o 1,085,810.[2] Birmingham yw dinas ail fwyaf y Deyrnas Unedig ar ôl Llundain, ac mae hi'n ffurfio rhan sylweddol o ardal ddinesig Gorllewin Canolbarth Lloegr, a oedd â chyfanswm o 2,736,460 o bobl yn byw yno yn 2011[3] ac chynhwysa nifer o drefi a dinasoedd cyfagos megis Solihull, Wolverhampton a threfi'r Black Country. Ceir nifer o barciau a chamlesi yn y ddinas. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, hi oedd y ddinas Seisnig a effeithwyd yn fwyaf gan yr ymgyrch bomio Almeinig.

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd y ddinas yn ganolbwynt y chwyldro yn Lloegr, ac o ganlyniad gelwir Birmingham yn "weithdy'r byd" a "dinas o fil o grefftau".[4] Er i bwysigrwydd Birmingham fel dinas ddiwydiannol leihau, mae wedi datblygu i fod yn ganolfan fasnachol genedlaethol, ac fe'i henwyd yr ail le gorau yn yr Deyrnas Unedig i leoli busnes a'r 14eg yn Ewrop gan Cushman & Wakefield yn 2009.[5] Hyhi yw'r ddinas bedwaredd fwyaf o ran y nifer o ymwelwyr o dramor sy'n mynd yno hefyd.[6]

Yn 2007, rhoddwyd Birmingham yn ddinas 55ed hawsaf i fyw ynddi yn y byd a'r ail ddinas hawsaf i fyw ynddi yn y Deyrnas Unedig, yn ôl Rhestr Mercer o safonau byw rhyngwladol.[7] Mae gan Birmingham yr economi dinesig ail fwyaf yn y Deyrnas Unedig, a chyrhaeddodd rif 72nd yn y byd yn 2008.[8]

Gelwir pobl o Birmingham yn 'Brummies', term sy'n tarddu o ffugenw'r ddinas - 'Brum'. Daw hyn o enw tafodieithol y ddinas, Brummagem,[9] a allai fod wedi dod o un o enwau blaenorol y ddinas, 'Bromwicham'. Mae yna dafodiaith ac acen Brummie unigryw gan drigolion y ddinas, sy'n wahanol i'r hyn a geir yn y Black Country cyfagos. Mae'n bosib fod yr enw'n cyfeirio at lwyth Celtaidd a drigai yma yn amser y Rhufeiniaid gan iddyn nodi'r ystyr fel "cartref llwyth y Beorma" ("homestead/village of Beorma's people'")[10]

  1. British Place Names; adalwyd 26 Awst 2020
  2. City Population; adalwyd 26 Awst 2020
  3. City Population; adalwyd 26 Awst 2020
  4. [http://icbirmingham.icnetwork.co.uk/mail/news/columnists/goldberg/tm_objectid=16955982&method=full&siteid=50002&headline=decline-of-the-city-of-a-thousand-trades-name_page.html "Decline of the city of a thousand trades", Birmingham Mail, 17 Ebrill 2006. Adalwyd 2 Awst 2006
  5. Birmingham, biggest mover in European league table, second to London for UK business Archifwyd 2011-08-27 yn y Peiriant Wayback 6 Hydref 2009. Anna Blackaby
  6. National Statistics Online - International Visits. Adalwyd ar 2009-07-19. Cyhoeddwr:ONS
  7. "World's Top 100 Most Livable Cities Bwnt.businessweek.com 1998-03-22. Adalwyd ar 2009-05-30". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-06. Cyrchwyd 2010-01-07.
  8. https://www.ukmediacentre.pwc.com/imagelibrary/detail.asp?MediaDetailsID=1562[dolen farw]
  9. Brummagem Worldwidewords.com 13 Rhagfyr 2003. Adalwyd ar 7 Mehefin 2008
  10. [1][dolen farw] Gwefan Prifysgol Nottingham; adalwyd 05 Mawrth 2013

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne