Term sy'n cyfeirio at sawl hen bentref yn Lloegr ydy black and white village. Lleolir llawer ohonynt yn Swydd Henffordd.
Gelwir y pentrefi felly oherwydd y nifer fawr o adeiladau hanner pren ynddynt. Yn nodweddiadol, mae fframiau pren yr adeiladau hyn yn cael eu duo, ac mae'r waliau rhwng y fframiau wedi'u gwyngalchu, ac felly'n cynhyrchu'r patrymau du a gwyn cyfarwydd.