Blaenau Gwent (etholaeth Senedd Cymru)

Blaenau Gwent
Etholaeth Senedd Cymru
Lleoliad Blaenau Gwent o fewn Dwyrain De Cymru
Math: Senedd Cymru
Rhanbarth Dwyrain De Cymru
Creu: 1999
AS presennol: Alun Davies (Llafur Cymru)
AS (DU) presennol: Nick Smith (Llafur)


Etholaeth Senedd Cymru Senedd Cymru yw Blaenau Gwent Mae'r etholaeth yn cynnwys trefi Glyn Ebwy a Thredegar (gweler Sir Blaenau Gwent). Mae'n ardal sydd wedi dioddef o ddirywiad y diwydiant glo a dur yn y cymoedd, ac mae diweithdra yn uchel yma. Mae'r sedd oddi fewn i Ranbarth Dwyrain De Cymru.

Cynrychiolodd Peter Law o'r Blaid Lafur etholaeth Blaenau Gwent yn y Cynulliad o'i sefydlu ym 1999 hyd ei farwolaeth yn Ebrill, 2006. Yr aelod presennol dros yr etholaeth yn y Senedd yw Alun Davies (Llafur Cymru), oedd yn aelod annibynnol rhwng 19 Ionawr a 23 Chwefror 2021 pryd cafodd ei wahardd ar ôl honiad ei fod wedi torri rheolau COVID, cafodd ei ail-dderbyn.[1]

  1. "Alun Davies yn ailymuno â grŵp Llafur wedi ffrae yfed". BBC Cymru Fyw. 2021-02-23. Cyrchwyd 2021-02-23.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne