Blodeugerddi Cymraeg

Detholiad o gerddi gan sawl awdur wedi'u casglu ynghyd yw blodeugerdd. Fel rheol mae rhyw thema neu berthynas rhwng y cerddi hynny, er enghraifft cerddi serch, cerddi ar yr un mesurau, neu gerddi gan feirdd sy'n perthyn i'r un genedl neu gyfnod, ac ati. Dros y blynyddoedd cafwyd sawl enghraifft o flodeugerdd Gymraeg. Mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn gerrig milltir pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne