![]() | |
Enghraifft o: | cydweithfa artistiaid, band ![]() |
---|---|
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Label recordio | Virgin ![]() |
Dod i'r brig | 1987 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1987 ![]() |
Genre | cerddoriaeth arbrofol ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Gwefan | https://www.blueman.com ![]() |
![]() |
Grŵp greadigol a sefydlwyd gan Phil Stanton, Chris Wink a Matt Goldman yw Blue Man Group (Blue Man, BMG); canolbwynt y grŵp yw tri perfformiwr mud, o'r enw Blue Men, sy'n cyflwyno'u hunain mewn paent saim glas dros capiau moel latex a gwisgant ddillad duon. Tra'u bod yn perfformio, chwaraeir cymysgedd o offerynnau idiosynctraig. Pletha perfformiadau theatr y Blue Man Group gerddoriaeth roc (gyda phwyslais ar offerynnau traw), celf berfformio, propiau anghyffredin, y gynulleidfa, goleuo soffistigedig a llawer iawn o bapur. Ceir hefyd "adran poncho" yn y gynulleidfa; yn y rhesi blaen, darperir ponchos plastic ar gyfer y gynulleidfa er mwyn eu hamddiffyn o'r bwyd, deunyddiau, paent ac ati a deflir, gwasgarir neu arllwysir o'r llwyfan. Mae'r sioeau yn addas ar gyfer teuluoedd,[1] yn ddoniol, bywiog ac yn aml iawn caiff bywyd modern ei ddychanu. Mae peth o'r hiwmor yn cynnwys torri ar draws y sioe er mwyn gwneud sbort o bobl sy'n cyrraedd y sioe yn hwyr.
Erbyn 2012 roedd 60,000 o bobl yn gweld perfformiadau gan Blue Man Group pob wythnos, mewn chwe dinas ar draws y byd.[2]