![]() | |
Math | maestref ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Fetropolitan Sefton |
Daearyddiaeth | |
Sir | Glannau Merswy (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.48999°N 3.04768°W ![]() |
Cod OS | SJ305996 ![]() |
![]() | |
Ardal faestrefol yn nhref Crosby, Glannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Blundellsands[1] neu Blundell Sands. Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Sefton. Saif ar yr arfordir i'r gogledd-orllewin o ganol y dref ac i'r gogledd o Brighton-le-Sands; mae Traeth Crosby yn rhedeg ar hyd glan y môr i'r gorllewin.
Enwyd Blundellsands er anrhydedd i deulu Blundell o Little Crosby. Roedd y Blundelliaid yn reciwsantiaid Catholig yn ystod y Diwygiad Protestannaidd yn Lloegr, ac roeddent yn berchen ar y tir hwn. Gan gychwyn ym 1868 gosodwyd yr ystâd gan y pensaer Thomas Mellard Reade (1832–1909).