![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Wootton |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Rydychen (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.719°N 1.297°W ![]() |
Cod OS | SP485025 ![]() |
Cod post | OX1 ![]() |
![]() | |
Pentref yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, ydy Boars Hill.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Wootton yn ardal an-fetropolitan Vale of White Horse. Roedd y plwyf yn Berkshire nes i newidiadau ffiniau 1974 ei drosglwyddo i Swydd Rhydychen.
Roedd nifer o feirdd amlwg yn byw yma. Y cyntaf oedd Margaret Louisa Woods yn yr 1880au. Fe'i dilynwyd gan Robert Bridges a John Masefield, a oedd ill dau yn Fardd Llawryfog. Am ychydig flynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd tri o'r beirdd rhyfel â nhw: Robert Graves, a oedd yn denant i Masefield, Edmund Blunden, a Robert Nichols. Parhaodd merch Bridges, y bardd Elizabeth Daryush, i fyw yma hyd ei marwolaeth ym 1977.