![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.9°N 4.5°W ![]() |
Cod OS | SH323377 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref bychan a phlwyf yn Llŷn, Gwynedd, yw Boduan ( ynganiad ) (weithiau: Bodfuan neu'r ffurf hynafiaethol Bodfean); cyfeiriad grid SH323378). Mae'n rhan o gymuned Buan. Gorwedd Boduan yng nghanol Llŷn ar yr A497, tua hanner ffordd rhwng Pwllheli i'r de-ddwyrain a Nefyn i'r gogledd-orllewin.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Enwir plwyf ac eglwys Boduan ar ôl Sant Buan, un o wyrion Llywarch Hen yn ôl traddodiad; ni wyddom dim arall amdano. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio'n ôl i 1760, pan godwyd eglwys newydd ar y safle, a'r 1840au pan atgyweirwyd yr adeilad hwnnw yn drwyadl ar gryn draul, diolch i nawdd y Wynniaid.[3] Mae'n eglwys fawr iawn am bentref mor fychan.
Tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin ceir bryn Garn Boduan a'i fryngaer.
Roedd Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 wedi cael ei gynnal ym Moduan, o'r 5ed i'r 12fed o Awst.