![]() | |
Math | gwesty ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystâd Bodysgallen ![]() |
Lleoliad | Conwy ![]() |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 56 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2968°N 3.80267°W ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Robert Wynne ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Manylion | |
Plasdy hynafol ger pentref Llanrhos yn y Creuddyn, bwrdeistref sirol Conwy, yw Bodysgallen (hefyd Bodysgallan neu Neuadd Bodysgallen). Mae'r adeilad presennol, sy'n gofrestredig, yn dyddio o'r 17g yn bennaf gydag ychwanegiadau diweddarach, ond mae'r safle yn hŷn o lawer. Bu gorthwr ar y safle yn yr Oesoedd Canol. Heddiw mae Bodysgallen yn westy.
Yn ôl traddodiad, roedd gan Cadwallon Law-hir, brenin Gwynedd (442-517), lys yma yn y 5g,[1] ond does dim modd profi hynny. Credai'r hynafiaethydd lleol y Parch. Robert Williams (1810-81) fod adfeilion plas Cadwallon i'w gweld yn y coed ar y bryn ger y plasdy, ond mae'n debyg mai adfeilion adeiladwaith canoloesol ydynt.[2] Erbyn yr Oesoedd Canol ymddengys ei fod yn un o dri gwely (uned o dir etifeddol) a berthynai i deulu'r Gloddaeth. Trwy amryfusedd oherwydd tebygrwydd eu henwau, credai Thomas Pennant ac eraill mai plas Caswallon yn hytrach na Cadwallon oedd Bodysgallen (neu "Bod Caswallon").[3]
Codwyd y prif adeilad presennol yn 1620 gan Robert Wynn, ac ychwanegwyd estyniad sylweddol yn un pen iddo yn y 19eg ganrif. Mae gan y plasdy erddi cynlluniedig ffurfiol o gyfnod Robert Wynn a ystyrir yn un o'r enghreifftiau gorau o erddi o'r math yn y wlad. Priododd Robert Wynn (Bodysgallen) Elen ferch Robert Wynn (o Blas Mawr) a thrwy hynny daeth Plas Mawr, Conwy, i feddiant y teulu.[4]