![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 996, 980 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,426.51 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.84°N 4.58°W ![]() |
Cod SYG | W04000052 ![]() |
Cod OS | SH260311 ![]() |
Cod post | LL53 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Botwnnog[1][2] ( ynganiad ). Saif ar Ben Llŷn ar ffordd y B4413, rhwng Mynytho a Sarn Mellteyrn, i'r gogledd-orllewin o Abersoch; Cyfeirnod OS: SH 26250 31201.
Mae yma ysgol uwchradd, Ysgol Botwnnog. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Beuno. Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1887, ond credir fod eglwys wedi bod yna ers y 7g. Daw aelodau'r band Cowbois Rhos Botwnnog o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]