Brad y Llyfrau Gleision

Brad y Llyfrau Gleision
Tudalen o un o'r Llyfrau Gleision, Inquiry into the State of Popular Education in Wales (Llundain, 1847), rhan 2, #.9, tud. 66: "Evils of the Welsh Language"
Enghraifft o:adroddiad Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1 Gorffennaf 1847 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1847 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Erthygl am yr adroddiad addysg yw hon. Gweler hefyd Brad (gwahaniaethu).

Adroddiad ar gyflwr addysg yng Nghymru a gomisiynwyd gan senedd San Steffan oedd Brad y Llyfrau Gleision. Cyflwynwyd yr Adroddiad terfynol yn 1847 a'i argraffu yn dair cyfrol yn Nhachwedd y flwyddyn honno. Cyfeiria lliw y llyfrau at y clawr glas a roddwyd arnynt (lliw traddodiadol papurau swyddogol llywodraeth Prydain). Mae'r enw ei hun yn fwysair ar Frad y Cyllyll Hirion, pan laddwyd nifer o bendefigion y Brythoniaid trwy ddichell y Saeson, yn ôl traddodiad, wedi i Hengist wahodd Gwrtheyrn i'w wledd. Y bardd a gwladgarwr R. J. Derfel a fathodd yr enw.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne