Enghraifft o: | clefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | clefyd heintus firol, clefyd y croen, Poxviridae infectious disease, eradicated disease, clefyd, amgylchiadau marwolaeth |
Daeth i ben | 1978 |
Symptomau | Blinder meddwl, brech, cur pen, poen yn yr abdomen, chwydu, pothell, pimple |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Haint a achosir gan ddau feirws, Variola major a Variola minor, yw'r frech wen (Saesneg: Smallpox). Variola major sy'n achosi'r math mwyaf difrifol, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra bod llai na 1% o'r rhai a effeithir gan Variola minor yn marw.[1]
Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC. Yn ystod y 18g, credir fod y frech wen wedi lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd ei effaith yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant yn marw.[2] Erbyn yr 20g roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr 20g. Ar 9 Rhagfyr 1979, cyhoeddodd WHO fod y frech wen wedi ei dileu; yr unig haint i gael ei dileu yn llwyr hyd yma.