![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.95°N 4.15°W ![]() |
Cod OS | SN525303 ![]() |
Cod post | SA32 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Llanfihangel Rhos-y-corn, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Brechfa.[1][2] Sair yng ngogledd y sir tua 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Caerfyrddin, ar y B4310 tua hanner ffordd rhwng Nantgaredig a Llansawel. Gorwedda Brechfa ar lan Afon Pîb, un o ledneintau Afon Cothi, ger y man lle llifa Afon Marles (Marlais) i lawr o fryniau Llanfihangel-rhos-y-corn.
Enwir Coedwig Brechfa ar ei ôl. Mae Afon Cothi yn llifo heibio hanner milltir i'r dwyrain o'r pentref. Cysegrir eglwys Brechfa i Sant Teilo. Dyddia'r adeilad presennol i 1893 ond saif ar safle eglwys gynharach. Bu'r bardd ac arweinydd radicalaidd William Thomas (1834-1879) yn byw ym Mrechfa. Adwaenir ef yn well wrth ei enw barddol Gwilym Marles, ar ôl afon Marles.
Ceir llwybr beicio yno sy'n addas i ddechreuwyr a theuluoedd.