Brenin Momo

Marcelo Reis, Brenin Momo Carnifal Rio de Janeiro yn 2005.

Mae'r Brenin Momo neu'r Brenin Momos neu'r Brenin Momus (Portiwgaleg: Rei Momo; Sbaeneg: Rey Momo) yn cael ei ystyried yn frenin y Carnifal mewn nifer o ddathliadau yn America Ladin, yn bennaf ym Mrasil a Colombia.

Mae ei ymddangosiad yn arwydd cychwyn y dathliadau Carnifal. Mae gan bob carnifal ei Brenin Momo ei hun, sydd yn aml yn cael ei roi yn symbolaidd i'r ddinas. Yn draddodiadol, dyn tal, tew, sy'n cael ei ddewis i gyflawni'r rôl oherwydd bod y Brenin Momo gwreiddiol yn ddyn cydnerth.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne