![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,012, 908 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,505.8 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8736°N 5.1131°W ![]() |
Cod SYG | W04000412 ![]() |
Cod post | SA62 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Paul Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Breudeth[1] (Saesneg: Brawdy).[2] Fe'i lleolir ger arfordir gorllewinol y sir ar Fae Sain Ffraid.
Mae'r gymuned yn cynnwys maes awyr y Llu Awyr Brenhinol, a phentrefi Llan-lwy a Trefgarn Owen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 611.
Dyddia eglwys y pentref, a gysegrwyd i Dewi Sant, o'r 12g yn wreiddiol. Ceir pedair carreg gydag arysgrifau yn dyddio o'r 6g tu mewn iddi.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[4]