Brian Aldiss | |
---|---|
Ffugenw | Jael Cracken |
Ganwyd | Brian Wilson Aldiss 18 Awst 1925 Dereham |
Bu farw | 19 Awst 2017 Rhydychen |
Man preswyl | Dereham |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur ffuglen wyddonol, nofelydd, beirniad llenyddol, llenor, sgriptiwr, arlunydd, person milwrol, llyfrwerthwr, prif olygydd, newyddiadurwr |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Adnabyddus am | Non-Stop, Hothouse |
Arddull | gwyddonias |
Prif ddylanwad | Karel Čapek, Olaf Stapledon, H. G. Wells, Mary Shelley, Roy Campbell |
Gwobr/au | OBE, Prif Wobr am Ddychymyg, Gwobr Hugo am y Stori Fer Orau, Gwobr Nebula am y Nofel Fer Orau, Pilgrim Award, Gwobr Hugo am y Gwaith Perthnasol Gorau, Gwobr Goffa John W. Campbell am y Nofel Ffuglen Wyddonol Orau, Gwobr Tähtivaeltaja, Gwobr Damon Knight, Uwch Feistr, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Gwobr y BSFA am y Nofel Orau, Gwobr Ditmar, World Fantasy Convention Award |
Gwefan | http://www.brianaldiss.co.uk/ |
Awdur a golygydd Seisnig oedd Brian Wilson Aldiss, OBE (/ˈɔːldɪs/; 18 Awst 1925 – 19 Awst 2017[1][2]), a oedd yn fwyaf adnabyddus am nofelau a straeon byrion gwyddonias. Defnyddiodd yr enw Brian W. Aldiss neu Brian Aldiss, heblaw am ambell ffugenw yn ystod canol y 1960au.
Cafodd ei ddylanwadu yn fawr gan yr arloeswr gwyddonias H. G. Wells, a roedd Aldiss yn is-lywydd Cymdeithas ryngwladol H. G. Wells. Roedd yn gyd-lywydd (gyda Harry Harrison) Grŵp Gwyddonias Birmingham. Enwyd Aldiss yn Grand Master gan Awduron Gwyddonias America yn 2000, a fe'i sefydlwyd yn Oriel Enwogion Gwyddonias yn 2004. Derbyniodd ddau Wobr Hugo, un Gwobr Nebula a un Gwobr Goffa John W. Campbell.[3] Ysgrifennodd y stori fer "Super-Toys Last All Summer Long" (1969), oedd yn sylfaen i ffilm Stephen Spielberg A.I. Artificial Intelligence a ddatblygwyd gan Stanley Kubrick. Roedd Aldiss yn gysylltiedig a'r Don Newydd Prydeinig o wyddonias.[4]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw SFAwards