Brihaspati

Brihaspati
Galwedigaethathronydd, astroleg Edit this on Wikidata
PlantKacha Edit this on Wikidata

Athronydd a llenor yn yr iaith Sansgrit o India oedd Brihaspati (fl. rhywbryd rhwng 500 CC a'r canrifoedd cyntaf OC). Mae'n cael ei uniaethu weithiau â'r duw o'r un enw, athro i'r duwiau, a enwir yn y Rig Veda (gweler Brihaspati (duw)).

Mae gwaith Brihaspati wedi diflannu ond mae athronwyr diweddarach fel Shankara (Sankara) a Madhva yn dyfynnu llinellau o'i sutras coll.

Roedd Brihaspati yn casáu'r offeiriadau a chrefydd yn gyffredinol a defodau'r Veda yn neilltuol. Dywedai mai twyllwyr allan i ennill eu bywoliaeth oedd yr offeiriaid ac mai cneifion oedd awduron y Vedau. Gwrthododd fodolaeth nef ac uffern a'r enaid ei hun fel offerynnau yn nwylo'r offeiriaid i ddychryn a thwyllo pobl ddiniwed a'u cadw yn eu grym tra'n byw ar ffrwyth eu llafur.

Ond yn ddiweddarach cafodd dysgeidiaeth Brihaspati ei hesbonio gan panditau Hindŵaidd uniongred fel arf yn nwylo'r duwiau i danseilio'r asurau (gelynion anfarwol y duwiau) trwy eu harwain ar gyfeiliorn ac felly ei gwneud hi'n haws i Indra ennill y dydd yn eu herbyn.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne