Math | Talaith Rufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Britannia Inferior |
Gwlad | Rhufain hynafol |
Cyfnod daearegol | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Britannia Secunda. Roedd yn un o'r pedair talaith a grewyd tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian; y tair arall oedd Britannia Prima, Maxima Caesariensis a Flavia Caesariensis.
Roedd Britannia Secunda yn cynnwys gogledd Lloegr, ac mae'n bosibl ei bid yn cynnwys rhan o ogledd Cymru. Roedd ei phrifddinas yn Efrog (Eboracum). Yn 369, crëwyd talaith newydd, Valentia. Mae ei lleoliad yn ansicr, ond efallai ei bod wedi ei chreu o ran o diriogaeth Britannia Secunda.