Brithenig

Yn ôl Ill Bethisad, siaredir Brithenig yn y rhanbarthau gwyrdd, Saesneg yn y rhanbarthau coch, a'r ieithoedd Goideleg yn y rhanbarthau oren.

Iaith artiffisial a grëwyd gan Andrew Smith o Seland Newydd yw Brithenig. Cafodd yr iaith ei chreu fel arbrawf i ddarganfod sut gallai iaith Romáwns fod wedi datblygu ym Mhrydain petai'r siaradwyr Lladin yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig wedi bod yn ddigonol i ddisodli'r siaradwyr Brythoneg. Yn ogystal â'r iaith, crëwyd llinell amser amgen, Ill Bethisad ("y Bydysawd"). Yn ôl hanes amgen Ill Bethisad mae'r newidiadau seiniol a ddigwyddodd tra ddatblygai Lladin i Frithenig yn Ynysoedd Prydain yn debyg i'r rhai a effeithiodd y Gymraeg tra ddatblygai o Frythoneg i Hen Gymraeg. Tardd nifer o eiriau yn yr iaith Romáwns hon o Frythoneg ac fe fenthycwyd nifer o eiriau o Saesneg yn ystod ei hanes.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne