![]() Eglwys yr Holl Saint, Brockhampton | |
Math | pentref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod unedol) |
Poblogaeth | 232 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.982°N 2.587°W ![]() |
Cod SYG | E04000714 ![]() |
Cod OS | SO592319 ![]() |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Brockhampton-by-Ross neu Brockhampton.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Henffordd.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil, sef Brockhampton (Old Gore Ward), boblogaeth a oedd yn rhy fach i gael ei rhestru'n swyddogol.[2]
Y ddau adeilad pwysicaf yn y pentref yw Brockhampton Court ac Eglwys yr Holl Saint. Mae Brockhampton Court yn blasty sylweddol a adeiladwyd yn wreiddiol fel rheithordy yng nghanol y 18g. Cafodd ei ailadeiladu i raddau helaeth yn yr arddull neo-Tuduraidd ym 1893. Cwblhawyd Eglwys yr Holl Saint ym 1902. Dyluniwyd yr adeilad, sydd yn null y Mudiad Celf a Chrefft, gyda to gwellt, gan William Lethaby, pensaer o Loegr.