![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 853, 908 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1,932.03 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.007°N 3.249°W ![]() |
Cod SYG | W04000256 ![]() |
Cod OS | SO144350 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Bronllys,[1] weithiau Brwynllys. Saif i'r gogledd-orllewin o dref Talgarth ac ychydig i'r de o Afon Gwy. Ar un adeg roedd yn ganolfan weinyddol Cantref Selyf. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 816.
Ceir castell mwnt a beili yma, sef Castell Bronllys, ac mae gan yr eglwys dŵr ar wahan. Adeiladwyd Ysbyty Bronllys fel ysbyty ar gyfer y diciâu. Bu'r bardd Bedo Brwynllys yn byw yma yn y 15g.
Heblaw pentref Bronllys, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Pipton a Llys-wen. Yn Pipton yr arwyddwyd Cytundeb Pipton rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Simon de Montfort yn 1265, cytundeb oedd yn cydnabod Llywelyn fel Tywysog Cymru. Yn ddiweddarach, roedd Pipton yn ganolfan cynhyrchu haearn, gwaith a ddechreuodd ddiwedd y 17g.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]