Math | bwrdeistref Dinas Efrog Newydd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Breukelen |
Poblogaeth | 2,736,074 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Antonio Reynoso |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Efrog Newydd |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 251 ±1 km² |
Gerllaw | Bae Efrog Newydd Uchaf, Bae Efrog Newydd Isaf, Jamaica Bay, Afon y Dwyrain, Newtown Creek |
Yn ffinio gyda | Queens, Ynys Staten, Manhattan, Bayonne, Jersey City |
Cyfesurynnau | 40.65083°N 73.94972°W |
Cod post | 112 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | borough president |
Pennaeth y Llywodraeth | Antonio Reynoso |
Un o bum bwrdeistref Dinas Efrog Newydd, wedi'i leoli i'r de-orllewin o Queens ar ymyl orllewinol Long Island ydy Brooklyn. Enwyd y fwrdeistref ar ôl y dref Iseldireg Breukelen). Yn dref annibynnol tan iddi gael ei uno gydag Efrog Newydd ym 1898, Brooklyn ydy bwrdeistref fwyaf poblog Dinas Efrog Newydd, gyda 2.5 miliwn o drigolion. Hyhi yw'r ail fwrdeistref fwyaf o ran arwynebedd hefyd. Ers 1896, bu gan Brooklyn yr un ffiniau a Swydd Kings, sydd yn bellach yn sir fwyaf poblog Talaith Efrog Newydd a'r ail sir gyda'r dwysedd poblogaeth uchaf yn yr Unol Daleithiau ar ôl Swydd Efrog Newydd (Manhattan).
I bob pwrpas ymarferol mae'r un endid â Kings County sy'n un o'r siroedd yn nhalaith Efrog Newydd.
Er ei fod yn rhan o Ddinas Efrog Newydd, mae gan Brooklyn ei ddiwylliant unigryw ei hun, yn ogystal â bywyd celfyddydol annibynnol a threftadaeth pensaernïol unigryw. Mae nifer o gymdogaethau Brooklyn yn lecynnau ethnig lle mae'r mwyafrif o'r trigolion yn perthyn i grŵpiau ethnig a diwylliannau penodol.