Enghraifft o: | lliw, lliw a enwir gan HTML4 |
---|---|
Math | goleuni |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lliw yw brown; dyma liw rhisgl coed, lliw gwallt, pridd neu fwd. Mae weithiau'n symbol o dlodi. Lliw cyfansawdd ydyw a gaiff ei wneud drwy uno coch, du a melyn, gan yr argraffydd; gellir defnyddio glas yn lle du.[1][2] Ar sgrin deledu (y model RGB) caiff ei wneud drwy uno coch a gwyrdd.
Mewn sawl ymchwil drwy Ewrop, dyma'r lliw lleiaf poblogaidd.[3]