Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Tom Shadyac |
Cynhyrchydd | Tom Shadyac Jim Carrey James D. Brubaker Michael Bostick Steve Koren Mark O'Keefe |
Ysgrifennwr | Stori / Sgript Steve Koren Mark O'Keefe Sgript Steve Oedekerk serennu = Jim Carrey Morgan Freeman Jennifer Aniston Lisa Ann Walter Catherine Bell Steve Carell Philip Baker Hall Nora Dunn Eddie Jemison Sally Kirkland |
Cerddoriaeth | John Debney |
Sinematograffeg | Dean Semler |
Golygydd | Scott Hill |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Universal Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 23 Mai, 2003 |
Amser rhedeg | 101 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Bruce Almighty (2003) yn ffilm gomedi Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Tom Shadyac ac sy'n serennu Jim Carrey, Morgan Freeman a Jennifer Aniston. Ysgrifennwyd y ffilm gan Steve Koren, Mark O'Keefe a Steve Oedekerk. Mae Tony Bennett yn gwneud ymddangosiad cameo yn y ffilm.
Mae'r ffilm yn adrodd hanes Bruce Nolan, gohebydd newyddion teledu anlwcus sy'n dymuno cael dyrchafiad a gwell bywyd yn gyffredinol. Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau anffodus fel cael ei ymosod arno tra'n helpu person di-gartref, mae Nola yn cwyno nad yw Duw yn medru gwneud Ei Swydd yn iawn. Caiff ei synnu'n fawr pan mae'n cyfarfod â Duw ei hun, a derbynia holl bŵerau Duw am gyfnod o wythnos er mwyn cael gweld a fyddai ef yn gallu gwneud y gwaith yn well.