Enghraifft o: | brwydr, military victories against the odds |
---|---|
Dyddiad | 25 Hydref 1415 |
Rhan o | y Rhyfel Can Mlynedd |
Lleoliad | Azincourt |
Gwladwriaeth | Teyrnas Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brwydr a ymladdwyd yng ngogledd Ffrainc ar 25 Hydref 1415 rhwng byddin Seisnig dan Harri V, Brenin Lloegr a byddin Ffrengig dan y Cwnstabl Charles d'Albret oedd Brwydr Agincourt. Roedd yn un o frwydrau enwocaf y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr.[1]
Dilynodd y frwydr yr un patrwm a nifer o frwydrau blaenorol yn y rhyfel hwn, megis Brwydr Poitiers (1356). Roedd Harri V wedi dewis safle amddiffynnol, gyda'i ddwy ystlys wedi eu gwarchod. Ymosododd y Ffrancwyr, ond cawsant golledion trwm, yn bennaf oherwydd saethwyr y bwa hir. Lladdwyd nifer fawr o brif uchelwyr Ffrainc.
Roedd colledion y Saeson yn llawer llai. Yn eu plith, roedd un Cymro amlwg, Dafydd Gam, oedd wedi bod yn un o brif wrthwynebwyr Owain Glyndŵr yn ystod ei wrthryfel. Nid ymddengys fod gwir yn y traddodiad iddo gael ei urddo'n farchog ar faes y frwydr cyn iddo farw. Roedd rhai o gyn-gefnogwyr Owain ym myddin Harri V hefyd, gan cynnwys Hywel Coetmor, brawd Rhys Gethin. Roedd cryn nifer o saethwyr y bwa hir yn Gymry, y rhan fwyaf o dde Cymru, allan o gyfanswm o tua 400 o filwyr Cymreig i gyd. Cofnodir i o leiaf un Cymro gael ei ladd yn ymladd ar ochr Ffrainc, ac mae traddodiad fod mab Glyn Dŵr, Maredudd ab Owain Glyndŵr, yn ymladd dros Ffrainc yn y frwydr hon.