Enghraifft o: | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 881 |
Lleoliad | Afon Conwy |
Buddugoliaeth gan y Cymry dros wŷr Mersia oedd Brwydr Dial Duw a ymladdwyd yn 881 ger aber Afon Conwy.
Ymosododd yr Iarll Aethelred o Fersia ar Wynedd yn 881, ond llwyddodd Anarawd ap Rhodri (mab Rhodri Mawr) i ennill buddugoliaeth waedlyd drosto yn y frwydr hon a glodforir gan y croniclydd fel "Dial Duw am Rodri", gan fod Rhodri wedi ei ladd mewn brwydr yn erbyn y Mersiaid.
Cafwyd brwydr arall yn y cyffiniau o'r enw Brwydr Aberconwy, rhai canrifoedd yn ddiweddarach.