![]() | |
Enghraifft o: | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 22 Gorffennaf 1298 ![]() |
Rhan o | Rhyfeloedd dros annibyniaeth yr Alban ![]() |
Lleoliad | Falkirk ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Teyrnas yr Alban ![]() |
![]() |
Brwydr Falkirk | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan Rhyfel Annibyniaeth Cyntaf yr Alban | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
![]() |
![]() | ||||||
Arweinwyr | |||||||
![]() |
![]() | ||||||
Nerth | |||||||
15,000[1] | 6,000[2] | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
2,000 wedi marw neu clwyfo[3] | 2,000 wedi marw 2,000 o ffoaduriaid[4] |
Ymladdwyd Brwydr Falkirk (Gaeleg yr Alban: Blàr na h-Eaglaise Brice) ar 22 Gorffennaf 1298, efallai ar Mumrills Brae ger Falkirk yn yr Alban. Brwydr rhwng byddin William Wallace a byddin Seisnig oedd hon; roedd y fuddugoliaeth Seisnig yn gam enfawr yn ymdrech Edward I, brenin Lloegr i ail-sefydlu ei reolaeth yn yr Alban. Roedd dros ddwywaith cymaint o filwyr ym myddin Lloegr, ond lladdwyd 2,000 o'r naill du a'r llall.
I Edward, roedd hon yn fuddugoliaeth yr oedd wedi breuddwydio amdani ers cryn amser; roedd wedi ei drechu yn Stirling ychydig ynghynt ac roedd cost ariannol ei ymyrraeth filwrol yn Ffrainc yn drwm arno, gan ei osod mewn sefyllfa eitha bregus. Doedd nifer yr Albanwyr a laddwyd neu a glwyfwyd ddim yn fawr, ond roedd yn cynnwys dirprwy Wallace sef Syr John de Graham, Syr John Stewart o Bonkyll a Macduff o Fife.[4]