![]() | |
Enghraifft o: | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 8 Medi 1380 ![]() |
Rhan o | Mongol invasion of Kievan Rus' ![]() |
Lleoliad | Kulikovo Field ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Uchel Ddugiaeth Moscfa ![]() |
![]() |
Brwydr rhwng lluoedd y Mongoliaid (y Llu Euraidd) dan Mamai a lluoedd Tywysogaeth Moscow dan Dywysog Dmitry Donskoy oedd Brywdr Kulikovo Pole (Brwydr Maes Kulikovo, Rwsieg Куликовская битва / Kulikovskaya bitva). Cymerodd le ar 8 Medi 1380 ar Kulikovo Pole ('Maes y Gïachod'), maes rhwng Afon Don, Afon Nepryadva ac Afon Krasivaya Mecha yn ne Rwsia (yn ne-orllewin Oblast Ryazan heddiw). Roedd y frwydr yn fuddugoliaeth lwyr i luoedd Moscow, a'r fuddugoliaeth sylweddol gyntaf gan luoedd Rwsiaidd yn erbyn eu rheolwyr o Fongoliaid. O hyn ymlaen, dechreuadd rheolaeth y Mongoliaid wanháu yn Rwsia. Dangosodd y frwydr arweinyddiaeth dywysogaeth Moscow, arwydd o goruchafiaeth ddyfydol Moscow dros y tywysogaethau Rwsiaidd eraill.