Enghraifft o: | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 10 Mehefin 1404 ![]() |
Lleoliad | Y Grysmwnt ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr ![]() |
Rhanbarth | Sir Fynwy ![]() |
Ymladdwyd Brwydr Gallt Campston neu Frwydr Mynydd Camstwn, ger Y Grysmwnt (Cyfeirnod OS: SO362224) fwy na thebyg ar 10 Mehefin 1405[1] rhwng byddin Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru, a byddin Harri V, brenin Lloegr dan arweiniad Iarll Warwick. Lladdwyd nifer o Gymry, gan gynnwys Elis ap Richard ap Howell ap Morgan Llwyd, Cludwr Baner Glyn Dŵr wrth i Fyddin Cymru ddianc o faes y gad. Llwyddodd y Saeson i gael y llaw uchaf a throedle arall yn Sir Fynwy.
Ceir cyfeiriad at y frwydr yng Nghroniclau Owain Glyn Dŵr a sgwennwyd gan y bardd Gruffudd Hiraethog rhwng 1556 a 1564: Yn yr un flwyddyn hono y bv y lladdfa ar gymru ar vynydd kamstwm.[2]
Ceir disgrifiad gan Harry (a ddaeth yn ddiweddarach yn frenin) at ei dad (Harri IV, brenin Lloegr), ond mae'n rhaid ei ddarllen gyda phinsiad reit fawr o halen, gan ei fod yn chwyddo'r disgrifiadau o'i fyddin ei hun. Disgrifia symudiad y byddinoedd cyn y frwydr yn eitha manwl. Dywed, 'ar 11 Mawrth, daeth cynrychiolwyr o'r Fyddin Gymreig o rannau o Forgannwg, Brynbuga a Gwent, 8,000 i gyd gan losgi ar y diwrnod hwnnw dref y Grosmwnt, o fewn Arglwyddiaeth Mynwy a Jenvoia'. Felly, digwyddodd y frwydr yn union wedi i'r Fyddin Gymreig gipio Castell y Grysmwnt.
Arweiniwyd y Saeson gan Gilbert Talbot, Syr William Newport a Syr John Greyndor, a cheir tystiolaeth fod marchogion brenin Lloegr, mewn arfwisgoedd. Ymddengys fod ymddangosiad y Saeson yn ddirybudd i'r Cymry, a oedd wrthi'n anrheithio'r dref; nid oeddent yn eu disgwyl. Cafwyd brwydr fer, a ffodd y Cymry oddi yno.