Enghraifft o: | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 15 Awst 778 |
Rhan o | Expedition of Charlemagne of 778 |
Lleoliad | Bwlch Ronsyfal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymladdwyd Brwydr Ronsyfal (Ffrangeg: Roncevaux, Sbaeneg: Roncesvalles) ym Mwlch Ronsyfal, ar y ffin rhwng Sbaen a Ffrainc, ar 15 Awst 778, rhwng rhan ôl byddin Siarlymaen, dan Rolant, arglwydd Mers Llydaw, a llu y Basgiaid.
Yng ngwanwyn 778, roedd Siarlymaen wedi bod yn ymgyrchu yn Sbaen. Wrth ddychwelyd i Ffrainc, ymosodwyd ar ran ôl y fyddin gan y Basgiaid. Gorchfygwyd y Ffranciaid, a lladdwyd Rolant yn yr ymladd. Anfarwolwyd y digwyddiad yn y Chanson de Roland, ond newidiwyd yr hanes; yn y Chanson, bellach y Mwslimiaid yw'r gelyn.