Enghraifft o: | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 17 Mehefin 1775 |
Rhan o | Rhyfel Annibyniaeth America |
Lleoliad | Charlestown |
Gwladwriaeth | y Tair Trefedigaeth ar Ddeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymladdwyd Brwydr Bunker Hill ger Boston, Massachusetts ar 17 Mehefin 1775 yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America. Roedd y frwydr yn fuddugoliaeth i'r fyddin Brydeinig, o dan arweinyddiaeth General Howe; ond dioddefodd y fyddin golledion mawr - lladdwyd mwy na 200 o filwyr. Collwyd tua 100 o filwyr gan y gwrthryfelwyr Americanaidd, o dan arweinyddiaeth William Prescott. Fel un o ddigwyddiadau pwsyig cyntaf y rhyfel, gwelir y frwydr fel tystiolaeth bod y gwrthryfelwyr yn barod i frwydro dros ryddid eu gwlad.