Enghraifft o: | brwydr chwedlonol |
---|---|
Dyddiad | 537 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brwydr olaf y Brenin Arthur yn ôl hanes traddodiadol Cymru oedd Brwydr Camlan neu Cad Gamlan. Mewn gwahanol ffynonellau, dywedir iddo gael ei ladd yn y frwydr neu iddo gael ei glwyfo a'i ddwyn ymaith i Ynys Afallon. Nid oes sicrwydd a yw'r digwyddiadau hyn yn hanesyddol ai peidio.
Dywedir i Arthur ymladd y frwydr yn erbyn ei nai, Medrawd, a laddwyd yn y frwydr. Ceir yr hanes yn llawn gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae, sy'n dweud fod Medrawd wedi cipio teyrnas Arthur a'i wraig, Gwenhwyfar. Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach.
Ceir y cofnod cynharaf am y frwydr yn yr Annales Cambriae am y flwyddyn 537:
Ceir cyfeiriad at y frwydr yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy o'r 13g. Ceir sawl cyfeiriad at y frwydr yng ngwaith y beirdd hefyd, gan amlaf dan yr enw gwaith Camlan neu gwaith Cad Camlan, fel trosiad am frwydr ffyrnig neu laddfa (gwaith='brwydr'). Yng ngwaith y Gogynfeirdd (Beirdd y Tywysogion) ceir cyfeiriadau at Frwydr Camlan mewn cerddi gan Cynddelw Brydydd Mawr, Prydydd y Moch, Llywelyn Fardd, a Gruffudd ab yr Ynad Coch. Mae un o 'Englynion y Beddau' yn sôn am 'Bedd mab Osfran yng Nghamlan'.[1]
Cyfeirir at Frwydr Camlan mewn pump o Drioedd Ynys Prydain. Yn nhriawd 30 (trefn golygiad Rachel Bromwich) disgrifir gosgordd Alan Fyrgan fel un o 'Dri Anniwair ('anffyddlon') Deulu Ynys Prydain' am iddynt ei adael i ymladd ym Mrwydr Camlan gyda dim ond ei weision. Cyfeirir at Fedrawd fel un o'r 'Trywyr Gwarth' mewn triawd hir (51) sy'n rhoi hanes Camlan. Mae triawd arall (53) yn cofnodi Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar fel un o'r 'Tair Gwith (Niweidiol) Balfawd ('cernod')' am iddo arwain at Frwydr Camlan. Cyfeira triawd arall (59) at ymrannu llu Arthur yn dair rhan cyn y frwydr yn un o'r 'Tri Anfad ('anffodus') Gynghor'. Disgrifir Brwydr Camlan ei hun yn un o 'Tri Ofergad ('brwydr ddiffrwyth') Ynys Prydain' am ei fod yn deillio o weithred dynghedfennol Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar (triawd 84).[2]
Mae llawer o drafod wedi bod ynghylch lleoliad y frwydr, gyda'r awgrymiadau yn cynnwys Camelford yng Nghernyw, Queen Camel yng Ngwlad yr Haf, sy'n agos i fryngaer South Cadbury a chaer Rufeinig Camboglanna, efallai Birdoswald neu Castlesteads. Ceir Afon Camlan yn Eifionydd a chae o'r enw Camlan wrth waelod Bwlch Oerddrws ger Dolgellau. Ceir hefyd Afon Camlad yn nwyrain Powys.
Ychydig o'r milwyr a ymladdodd yn y frwydr a ddihangodd yn fyw yn ôl y chwedlau, ond mae'r fersiynau o bwy yn union a oroesodd y frwydr yn amrywio. Tri yn unig a ddihangodd yn ôl Culhwch ac Olwen, ond mae ffynonellau diweddarach yn cyfeiro at saith. Ymhlith y rhai a enwir mae'r seintiau Derfel Gadarn a Pedrog, Morfran mab Tegid Foel a Cheridwen, a ddihangodd am ei fod mor hyll, a Sandde Bryd Angel, a ddihangodd am ei fod mor hardd fel bod pawb yn credu nad meidrolyn ydoedd.