Enghraifft o: | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 25 Mehefin 1876 |
Rhan o | Great Sioux War of 1876 |
Lleoliad | Afon Little Bighorn |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Montana Territory |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymladdwyd Brwydr Little Big Horn (neu Little Bighorn) ar 25 a 26 Mehefin 1876, rhwng byddin o'r Lakota (cangen o'r Sioux), Cheyenne ac Arapaho dan arweiniad Gall, Thasuka Witco ("Crazy Horse") a Tatanka Lyotake ("Sitting Bull", er nad oedd ef yn bresennol ar faes y frwydyr) a Seithfed Marchoglu byddin yr Unol Daleithiau dan arweiniad George Armstrong Custer.
Roedd miloedd o'r Sioux a brodorion eraill wedi gadael y gwarchodfeydd y gorfodwyd hwy iddynt erbyn diwedd 1876. Gyrrwyd byddin yr Unol Daleithiau dan y Brigadydd George Crook i'w gorfodi i ddychwelyd. Symudodd Crook tua'r gogledd o Fort Fetterman yn y Wyoming Territory tuag ardal y Powder River. Symudodd colofn arall dan y Brigadydd Alfred Terry, yn cynnwys y Seithfed Marchoglu dan Custer, tua'r gorllewin o Fort Abraham Lincoln yn y Dakota Territory.
Symudodd Custer i fyny Afon Rosebud fel rhan o gynllun i ddal y brodorion rhwng ei filwyr ef a'r prif fyddin. Roedd ganddo 44 swyddog a 718 milwr. Nid oedd ganddo syniad faint o frodorion oedd yn ei wrthwynebu, ac mae hyn yn parhau'n ansicr. Cred y rhan fwyaf o ysgolheigion fod oddeutu 1,800 ohonynt.
Wedi darganfod presenoldeb pentref mawr o frodorion gerllaw, rhannodd Custer ei lu yn bedwar, y mwyaf dan ei arweiniad ef ei hun. Ymosododd un o'r colofnau, dan Major Reno, ar y pentref, heb fod yn sicr o'i faint. Gorfodwyd iddo encilio, dan ymosodiad trwm. Roedd gan Custer ei hun 208 o filwyr. Wedi iddynt orfodi Reno i encilio, gallai'r brodorion ddefnyddio y rhan fwyaf o'u llu yn erbyn Custer. Credir na pharhaodd yr ymladd yn hwy na rhyw hanner awr, a lladdwyd Custer a'i ŵyr i gyd.
Ceir disgrifiad cofiadwy o'r frwydr o safbwynt y Sioux gan Black Elk yn ei hunangofiant Black Elk Speaks.