Brwydr Trafalgar | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Arweinwyr | |||||||
* ![]() |
* ![]() | ||||||
Nerth | |||||||
33 llong o'r llinell 5 ffrigad 2 brigâd 2,632 dryll 30,000 dyn [2] |
27 llong o'r llinell 4 ffrigad 1 sgwner 1 torrwr 2,148 dryll 17,000 dyn | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
4,395 meirw 2,541 wedi anafu |
458 meirw 1,208 wedi anafu. [4] |
Brwydr ar y môr rhwng Llynges Frenhinol y Deyrnas Unedig[5] a llyngesau cynghreiriol Ffrainc a Sbaen oedd Brwydr Trafalgar a ymladdwyd ar 21 Hydref 1805 yn ystod Rhyfel y Drydydd Cynghrair o Rhyfeloedd Napoleon (1803-1815).
Fel rhan o gynllun Napoleon i lansio goresgyniad llyngesol o Brydain, roedd llyngesau Ffrainc a Sbaen wedi uno i geisio cael rheolaeth o'r Môr Udd felly gall y Grande Armée croesi i'r ynys. Gadawodd y llynges gynghreiriol o Borthladd Cádiz ar 18 Hydref 1805. Cafodd llynges Is-iarll Nelson ei greu yn ddiweddar i wrthod y bygythiad yma yn y Cefnfor Iwerydd.
Arweiniodd Nelson ei lynges ar HMS Victory. Yn ystod y frwydr cafodd Nelson ei saethu gan fysgedwr Ffrengig, a bu farw ychydig cyn i'r frwydr gorffen.
Roedd buddugoliaeth Prydain yn y frwydr wedi cadarnhau ei rheolaeth bron yn gyfan gwbl yn forol am y ganrif nesaf.