![]() | |
Math | brwydr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rhyfel y Ddau Frenin ![]() |
Lleoliad | Drogheda ![]() |
Sir | Swydd Meath ![]() |
Gwlad | Teyrnas Iwerddon ![]() |
Cyfesurynnau | 53.7231°N 6.4236°W ![]() |
![]() | |
Cyfnod | 11 Gorffennaf 1690, 1 Gorffennaf 1690 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() |
Ymladdwyd Brwydr y Boyne ar 1 Gorffennaf 1690 ar lan Afon Boyne yn Iwerddon, i'r gogledd o Ddulyn.[1] Brwydr rhwng dau frenin a hawliai goron Lloegr oedd hi. Gorchfygodd Wiliam III/II o Loegr a'r Alban y cyn-frenin Iago II. Er nad oedd yn frwydr fawr ynddi'i hun - ychydig iawn a laddwyd - roedd yn drobwynt yn hanes Iwerddon am fod Wiliam yn Brotestant ac yn cael ei gefnogi gan ymsefydlwyr Protestannaidd y gogledd. Canlyniad hir-dymor y frwydr oedd Goruchafiaeth y Protestaniaid a darostwng y Catholigion brodorol. Dethlir buddugoliaeth Wiliam hyd heddiw gan Unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.