Math | bryn, parc |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Uwch y môr | 65 metr |
Cyfesurynnau | 51.5396°N 0.1608°W |
Cod OS | TQ282838 |
Cod post | NW1, NW3, NW8 |
Mae Bryn y Briallu (Saesneg: Primrose Hill) yn fryn 256 troedfedd (78 m) ar ochr ogleddol Regent's Park yng ngogledd Llundain, Lloegr, ble ceir golygfa wych dros Lundain. Hwn yw'r bryn agosaf i ardal Soho, cartref Iolo Morganwg gynt ac i'w gyfoeswr William Blake. Yma ym 1792 y cynhaliwyd Gorsedd y Beirdd gyntaf Iolo Morganwg. Dewiswyd Alban Hefin neu Hirddydd Haf, sef canol haf, ar gyfer seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Roedd y seremoni yn defnyddio deuddeg carreg o'i boced. Wedyn daeth Derwyddon Seisnig i'r lle a dechrau'r 'Primrose Hill Druids', y grwp neo-baganaidd sy'n dal i fynychu Côr y Cewri ar Alban Hefin, ond yn dychwelyd i Fryn y Briallu ym mis Medi bob blwyddyn i ddathlu y cyhydnos.
Adferwyd y briallu i'r bryn yn 2008, ac anrhydeddwyd Iolo Morganwg gan Orsedd Beirdd Ynys Prydain ym Mehefin 2009; gosodwyd carreg yno a chynhaliwyd seremoni'r Orsedd i gofio diwrnod sefydlu'r Orsedd. Cadeirwyd y seremoni gan Huw Edwards.