Math | bwlch ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bernard o Menthon ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal ![]() |
Sir | Séez, La Thuile ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Uwch y môr | 2,188 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 45.6803°N 6.8839°E ![]() |
Cadwyn fynydd | Graian Alps ![]() |
![]() | |
Lleolir Bwlch Sant Bernard Bach (Ffrangeg: Col du Petit Saint-Bernard, Eidaleg: Colle del Piccolo San Bernardo) yn yr Alpau, ar y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal, sy'n cwrdd ar ben y bwlch, sydd 2188 metr uwchben lefel y môr. Lleolir ochr orllewinol y bwlch yn ardal Savoie, Ffrainc, i'r de o massif Mont Blanc. Ceir hefyd Bwlch Sant Bernard Mawr a Bwlch San Bernardino.
Ar y bwlch ceir cylch cerrig sy'n mesur 72 medr (236 troedfedd) ar ei draws. Mae wedi cael ei ddifrodi i ryw raddau gan y ffordd sy'n rhedeg trwyddo a bu maen hir yn ei chanol ar un adeg. Nid yw'r cylch wedi cael ei ddyddio'n fanwl gywir ond mae darnau arian wedi eu canfod o'i amgylch sy'n dyddio o Oes yr Efydd. Mae'n bosibl mai safle seremonïol y diwylliant Tarentaisiaidd (tua 725 CC–450 CC) oedd hi. Yn ddiweddarach, codwyd teml Rufeinig gerllaw a gysegrwyd i'r duw Iau, ynghyd â mansio Rhufeinig a oedd yn gwasanaethu teithwyr dros y bwlch; credir gan rai i'r cadfridog Carthaginaidd, Hannibal ddefnyddio'r llwybr hwn pan groesodd yr Alpau i ymosod ar Rufain (ond mae eraill yn credu iddo groesi'r Alpau Cotaidd ymhellach i'r de).
Adnewyddwyd y cylch cerrig yn rhannol yn ystod y 19eg ganrif.