Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref ![]() |
---|---|
Prifddinas | Scunthorpe ![]() |
Poblogaeth | 172,005 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Swydd Lincoln ![]() |
Sir | Swydd Lincoln (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 846.2966 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 53.6°N 0.65°W ![]() |
Cod SYG | E06000013 ![]() |
GB-NLN ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of North Lincolnshire Council ![]() |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Lincoln, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln (Saesneg: Borough of North Lincolnshire).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 846 km², gyda 172,292 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln a Ardal Gorllewin Lindsey i'r de, yn ogystal â Swydd Nottingham i'r de-orllewin, De Swydd Efrog i'r gorllewin, a Dwyrain Swydd Efrog i'r gogledd.
Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd yr hen sir Humberside. (Cyn creu Humberside ym 1974 roedd yr ardal hon wedi bod yn rhan o Swydd Lincoln.)
Rhennir y fwrdeistref yn 56 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Scunthorpe, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Barton-upon-Humber, Brigg, Broughton, Crowle, Epworth, Kirton in Lindsey, a Winterton