![]() | |
Math | bwrdeisdref, ardal awdurdod unedol yn Lloegr ![]() |
---|---|
Prifddinas | Slough ![]() |
Poblogaeth | 149,112 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Berkshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 32.5419 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5°N 0.56667°W ![]() |
Cod SYG | E06000039 ![]() |
GB-SLG ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Slough Borough Council ![]() |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Slough.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 32.5 km², gyda 149,112 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead i'r de, Surrey i'r de hefyd, Swydd Buckingham i'r gorllewin ac i'r gogledd, a Llundain Fwyaf i'r dwyrain.
Ffurfiwyd y fwrdeistref ar 1 Ebrill 1974 fel ardal an-fetropolitan o dan reolaeth yr hen sir an-fetropolitan Berkshire. Pan ddiddymwyd y cyngor sir ar 1 Ebrill 1998, daeth y fwrdeistref yn awdurdod unedol.
Yn ogystal â thref Slough ei hun, sy'n sefyll mewn ardal ddi-blwyf, mae'r awdurdod yn cynnwys tri phlwyf sifil Britwell, Colnbrook with Poyle a Wexham Court.