![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref fetropolitan ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | De Swydd Efrog |
Prifddinas | Rotherham ![]() |
Poblogaeth | 260,800 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Chris Read ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | De Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 286.5343 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 53.4308°N 1.3547°W ![]() |
Cod SYG | E08000018 ![]() |
GB-ROT ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | cabinet Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham ![]() |
Corff deddfwriaethol | cyngor Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arweinydd Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Chris Read ![]() |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan yn Ne Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham (Saesneg: Metropolitan Borough of Rotherham).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 287 km², gyda 265,411 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Sheffield i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Barnsley i'r gogledd, Bwrdeistref Fetropolitan Doncaster i'r gogledd-ddwyrain, Swydd Nottingham i'r de-ddwyrain, a Swydd Derby i'r de.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan De Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn 30 o blwyf sifili, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Rotherham, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Dinnington, Maltby a Wath-upon-Dearne.