Bwrdeistref Fetropolitan Sefton

Bwrdeistref Fetropolitan Sefton
Mathbwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGlannau Merswy
PrifddinasBootle Edit this on Wikidata
Poblogaeth275,396 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGdańsk, Fort Lauderdale, Mons Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlannau Merswy
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd154.9911 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.445°N 2.998°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000014 Edit this on Wikidata
GB-SFT Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Sefton Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Bwrdeistref fetropolitan yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Sefton (Saesneg: Metropolitan Borough of Sefton).

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 153 km², gyda 276,410 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Lerpwl a Bwrdeistref Fetropolitan Knowsley i'r de, Swydd Gaerhirfryn i'r dwyrain, a Môr Iwerddon i'r gorllewin.

Bwrdeistref Fetropolitan Sefton yng Nglannau Merswy

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.

Rhennir y fwrdeistref yn ddeg plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys trefi Bootle a Southport, sy'n rhannu'i swyddfeydd gweinyddol. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Crosby, Formby, Litherland a Maghull. Enwir y fwrdeistref ar ôl Sefton, sy'n bentref ger Maghull.

  1. City Population; adalwyd 17 Gorffennaf 2020

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne