Math | bwrdeistref fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf |
Prifddinas | Ashton-under-Lyne |
Poblogaeth | 232,753 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 103.1543 km² |
Uwch y môr | 151 metr |
Yn ffinio gyda | Dinas Manceinion, Bwrdeistref Fetropolitan Oldham, Bwrdeistref Fetropolitan Stockport, Bwrdeistref High Peak |
Cyfesurynnau | 53.49°N 2.0942°W |
Cod SYG | E08000008 |
GB-TAM | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | gweithrediaeth Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Tameside |
Corff deddfwriaethol | cyngor Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Tameside |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Tameside Metropolitan Borough Council |
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Tameside (Saesneg: Metropolitan Borough of Tameside).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 103 km², gyda 226,439 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Stockport i'r de, Dinas Manceinion i'r gorllewin, Bwrdeistref Fetropolitan Oldham i'r gogledd, a Swydd Derby i'r dwyrain.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Mae'r rhan fwyaf o'r fwrdeistref yn ddi-blwyf, gyda dim ond un plwyf sifil, sef Mossley. Mae ei phencadlys yn nhref Ashton-under-Lyne. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Audenshaw, Denton, Droylsden, Dukinfield, Hyde, Mossley a Stalybridge.