![]() | |
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref ![]() |
---|---|
Prifddinas | Stockton-on-Tees ![]() |
Poblogaeth | 199,966 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Durham Gogledd Swydd Efrog (Siroedd seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 204.9625 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 54.55°N 1.33°W ![]() |
Cod SYG | E06000004 ![]() |
GB-STT ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Stockton-on-Tees Borough Council ![]() |
![]() | |
Awdurdod unedol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr yw Bwrdeistref Stockton-on-Tees (Saesneg: Borough of Stockton-on-Tees). Fe'i rhennir gan Afon Tees yn rhan ogleddol yn sir seremonïol Swydd Durham a rhan ddeheuol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog. Mae'r rhan yn Swydd Durham yn fwy. Mae'r awdurdod unedol yn rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees gyda Bwrdeistrefi Darlington, Hartlepool, Middlesbrough a Redcar a Cleveland.
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 204 km², gyda 197,348 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Hartlepool ac awdurdod unedol Swydd Durham i'r gogledd, Bwrdeistref Darlington i'r gorllewin, Ardal Hambleton i'r de, a Bwrdeistref Middlesbrough i'r dwyrain.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel un o'r pedair ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Cleveland, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1996.
Rhennir y fwrdeistref yn 19 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Stockton-on-Tees, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Billingham, Eaglescliffe, Ingleby Barwick, Thornaby-on-Tees a Yarm.