Enghraifft o: | cangen o'r fyddin |
---|---|
Math | lluoedd milwrol |
Yn cynnwys | troedfilwr, marchfilwr, artillery, armoured troop |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llu arfog sy'n ymladd yn bennaf ar dir yw byddin, a hwnnw dan orchymun brenin, cadfridog neu rywun arall o awdurdod, gyda'r bwriad o ladd milwyr mewn byddin arall. Gwneir hyn gyda'r bwriad o amddiffyn gwlad neu dir neu er mwyn ennill awdurdod neu dir mewn gwlad arall. Gall hefyd gynnwys llu hedfan.
Mewn byddin fodern ymleddir gyda drylliau, rocedi, dronau a thanciau, ond mae byddinoedd wedi bodoli ers miloedd o flynyddoedd. Ceir disgrifiadau o fyddinoedd Celtaidd enfawr cyn Crist.
Mewn rhai gwledydd, megis Ffrainc a Tsieina, mae gan y term "byddin", yn enwedig yn ei ffurf luosog "byddinoedd" gyfeirio at ystyr ehangach, sef y lluoedd arfog yn eu cyfanrwydd. Er mwyn gwahaniaethu, mae'r term yn amodol, er enghraifft yn Ffrainc gelwir y llu tir yn Armée de terre, sy'n golygu Byddin y Tir, y llu awyr a gofod yw Armée de l'Air et de l’Espace, sy'n golygu Byddin Awyr a Gofod. Mae'r llynges, er nad yw'n defnyddio'r term "byddin", hefyd wedi'i gynnwys yn ystyr eang y term "byddinoedd" - felly mae Llynges Ffrainc yn rhan annatod o'r Byddinoedd Ffrengig ar y cyd (sef Lluoedd Arfog Ffrainc) o dan Weinyddiaeth y Byddinoedd (y Weinyddiaeth Amddiffyn yn y DU). Gwelir patrwm tebyg yn Tsieina, gyda Byddin Rhyddhau'r Bobl (PLA, neu People's Liberation Army) yn fyddin gyffredinol, y llu tir yw'r PLA Ground Force, ac yn y blaen ar gyfer Llu Awyr y PLA, Llynges y PLA, a changhennau eraill.
Mae nifer o lyfrau mewn ysgolion dwyieithog yn Llydaw yn dwyn yr enw Plouz-foenn (gwellt-gwair). Cyfeiria’r teitl at amser rhyfeloedd gwahanol yn Ffrainc pan nad oedd milwyr Llydewig, ffermwyr y rhan fwyaf, nad oedd yn medru fawr o Ffrangeg, ac wrth fartsio roedd y sarjant yn gweiddi arnynt plouz-foenn yn lle un-dau neu droit-gauche.[1]