Enghraifft o: | sefydliad parafilwrol ![]() |
---|---|
Idioleg | Annibyniaeth i Gymru ![]() |
Daeth i ben | 1969 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1963 ![]() |
Corff paramilitaraidd cenedlaethol Cymreig oedd Byddin Rhyddid Cymru (Saesneg: Free Wales Army neu FWA).
Sefydlwyd y fyddin yn Llanbedr Pont Steffan yn 1963 gan William Julian Cayo-Evans, gyda'r bwriad o gymeryd lle Mudiad Amddiffyn Cymru. Ei nod oedd gweriniaeth Gymreig annibynnol. Daeth logo'r fyddin, a adwaenid fel yr Eryr Wen, yn olygfa gyffredin trwy Gymru, wedi ei beintio ar waliau a phontydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi boddi pentref Capel Celyn a chyn Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969.
Bu'r fyddin yn hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru, a'i harweinwyr yn rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr. Ymddengys iddynt fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau.