Bydysawd Estynedig DC

Logo DC Comics

Mae'r Bydysawd Estynedig DC (Saesneg: DC Extended Universe (DCEU)) yn fasnachfraint gyfryngau a bydysawd ffuglennol cyfrannol Americancaidd â'i ganolbwynt ar gyfres o ffilmiau archarwyr, a gynhyrchir gan Warner Bros. Pictures a seilir ar gymeriadau sy'n ymddangos mewn cyhoeddiadau gan DC Comics. Gweithir y bydysawd cyfrannol, yn debyg i'r Bydysawd DC gwreiddiol mewn llyfrau comig, trwy rannu elfennau plot cyffredin, lleoliadau, cast a chymeriadau ar y ffilmiau gwahanol.[1]

Rhyddhawyd y ffilm gyntaf yn y bydysawd Man of Steel yn 2013, y ffilm gyntaf yn y fersiwn newydd o'r gyfres ffilmiau Superman. Dilynir y ffilm hon gan Batman v Superman: Dawn of Justice (2016). Y ffilmiau nesaf a ryddheir yw Suicide Squad (2016), a Wonder Woman (2017). Cynhwysa ffilmiau i ddod The Flash (2018), Aquaman (2018), Shazam (2019), Cyborg (2020), Green Lantern Corps (2020), a ffilm Justice League dwy ran, gyda Part One yn cael ei rhyddhau yn 2017, a Part Two yn 2019. Dosbarthir ffilmiau oll gan Warner Bros. Pictures.

  1. "'Game Of Thrones' Actor Will Play Aquaman In New Movie". Business Insider. October 16, 2014. Cyrchwyd October 16, 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne