Delwedd:Photinus pyralis Firefly glowing.jpg, Jellyfish at the WILD LIFE Sydney Zoo (Ank Kumar) 06.jpg Magïen (Photinus pyralis) yn hedfan ac yn tywynnu. | |
Enghraifft o: | proses fiolegol, lliw yn y byd natur |
---|---|
Math | metaboledd celloedd, luminescence |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhyrchiad ac allyrriant goleuni gan organeb byw yw bywoleuni,[1] bywdywynnu[1] neu bioymoleuedd.[2] Ffurf ar gemoleuni ydyw, ac mae'n digwydd gan amlaf mewn fertebrata ac infertebrata'r môr, a hefyd ffyngau, micro-organebau megis bacteria, ac infertebrata'r tir megis pryfed tân. Mewn ambell anifail, cynhyrchir y golau gan organebau symbiotig megis bacteria Vibrio.