Enw llawn | Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd | |||
---|---|---|---|---|
Llysenw(au) | Yr Adar Gleision | |||
Sefydlwyd | 1899 (fel Riverside A.F.C.) | |||
Maes | Stadiwm Dinas Caerdydd | |||
Perchennog | Vincent Tan | |||
Cadeirydd | Mehmet Dalman | |||
Rheolwr | Omer Riza | |||
Cynghrair | Pencampwriaeth Lloegr | |||
2023–2024 | 12fed o 24 (Pencampwriaeth Lloegr) | |||
Gwefan | Gwefan y clwb | |||
|
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd (Saesneg: Cardiff City Football Club) yn glwb pêl-droed proffesiynol sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac yn un o'r pum clwb o Gymru sy'n chwarae yng nghyfundrefn pêl-droed Lloegr.[1] Mae'n cystadlu yn y Bencampwriaeth, ail haen cynghrair pêl-droed Lloegr. Fe'i sefydlwyd ym 1899 dan yr enw Riverside A.F.C. gan newid i Cardiff City yn 1908. Ymunodd â Chynghrair Pêl-droed De Lloegr ym 1910 cyn symud i Gynghrair Pêl-droed Lloegr yn 1920. Mae'r tîm wedi treulio 17 tymor yn haen uchaf pêl-droed Lloegr; y cyfnod hwyaf oedd rhwng 1921 a 1929. Y cyfnod diweddaraf yn yr haen uchaf oedd tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr yn 2018–19.
Caerdydd yw'r unig dîm o'r tu allan i Loegr i ennill Cwpan FA Lloegr, gan wneud hynny yn 1927. Maent hefyd wedi cyrraedd tair rownd derfynol yng nghystadlaethau Lloegr: Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr 1925 (colli i Sheffield United), Rownd Derfynol Cwpan FA Lloegr 2008 (colli i Portsmouth) a Rownd Derfynol Cwpan Cynghrair Pêl-droed 2012 (colli i Lerpwl). Maent wedi ennill Cwpan Cymru ar 22 achlysur, sy’n golygu mai nhw yw’r ail dîm mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth ar ôl Wrecsam.
Ac eithrio cyfnod byr ar ddechrau'r ganrif hon, glas a gwyn yw lliwiau cartref y clwb ers 1908, a dyna sy'n rhoi cyfrif am y llysenw 'Yr Adar Gleision'. Cae parhaol cyntaf y clwb oedd Parc Ninian a agorwyd yn 1910; parhaodd i gael ei ddefnyddio am 99 mlynedd cyn i'r clwb symud i Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2009. Mae Caerdydd yn gystadleuwyr hirsefydlog i glwb pêldroed Dinas Abertawe ac mae'r ddau yn chwarae darbi De Cymru yn erbyn ei gilydd. Gêm ddarbi bwysig arall yw honno yn erbyn Bristol City, a elwir yn ddarbi Glannau Hafren (Severnside). Deiliad y record ar gyfer nifer ymddangosiadau i'r clwb yw Billy Hardy, a wnaeth 590 ymddangosiad dros gyfnod o ugain mlynedd, a’r sgoriwr uchaf yn hanes y clwb yw Len Davies gyda 179 gôl.