Enghraifft o: | government committee |
---|---|
Math | cabinet |
Rhan o | Llywodraeth y Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1644 |
Isgwmni/au | Joint Intelligence Committee, Joint Intelligence Committee, Committee of Imperial Defence, War Cabinet (First World War), War Cabinet (Second World War), War Cabinet (Falklands War), National Security Council |
Rhiant sefydliad | Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig |
Pencadlys | 10 Stryd Downing |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.cabinet-office.gov.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cabinet y Deyrnas Unedig ydy'r corff sy'n gwneud penderfyniadau ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac sy'n cynnwys 22 o aelodau ynghyd â Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Gelwir yr aelodau hyn, a etholwyd o blith aelodau seneddol Tŷ'r Cyffredin ac o Dŷ'r Arglwyddi, yn Weinidogion y Goron a chânt eu dewis gan y Prif Weinidog. Fel rhan o'u gwaith, caiff y Gweinidogion y cyfrifoldeb o fod yn bennaethiaid ar Adrannau o'r Llywodraeth gyda'r teitl "Y Gweinidog dros ... (Amaeth, Amddiffyn)" ac yn y blaen. Mae aelodau'r Cabinet, ar wahân i'r Prif Weinidog, ar yr un lefel a'i gilydd.[1]
Yn draddodiadol, y Cabinet yw'r corff uchaf o ran gwneud penderfyniadau o fewn system llywodraethu San Steffan. Gwelir gwreiddiau'r system gyfansoddiadol hon yng ngwaith arloeswyr megis Walter Bagehot, a ddisgrifiodd y Cabinet fel "cyfrinach effeithiol" system wleidyddol Prydain yn ei lyfr The English Constitution. Dros y degwadau diwethaf, fodd bynnag, gwelwyd lleihau pwer y Cabinet gan drosglwyddo llawer o'i bwerau i'r Prif Weinidog.[2]